Diweddarwyd diwethaf: 15/01/2025
Mae Tai ar y Cyd (“rydym,” “ni,” neu “ein”) yn parchu eich preifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogelu’r data personol a gasglwn gennych. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth pan fyddwch yn ymweld â’n Gwefan ni: https://taiarycyd.cymru/ (“Gwefan”).
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i’r arferion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
1. Y wybodaeth rydym ni’n ei chasglu
Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch:
a. Gwybodaeth bersonol
Enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, neu fanylion cyswllt eraill rydych chi’n eu rhoi ar ffurflenni neu trwy gyfathrebu uniongyrchol.
b. Gwybodaeth nad yw’n bersonol
Math o borwr, gwybodaeth am ddyfais, cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a faint o amser a dreuliwyd ar y Wefan, sy’n cael eu casglu trwy gwcis neu dechnolegau tebyg.
2. Sut rydym ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:
- Er mwyn ein helpu i wella ein gwasanaethau.
- Ymateb i ymholiadau neu geisiadau sy’n cael eu cyflwyno drwy ein gwefan.
- Dadansoddi a gwella ymarferoldeb ein gwefan.
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu ddiogelu ein hawliau.
3. Rhannu eich gwybodaeth
Nid ydym yn gwerthu nac yn rhentu’ch gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda:
Darparwyr gwasanaethau: Trydydd partïon dibynadwy sy’n helpu i weithredu ein Gwefan neu ddarparu ein gwasanaethau.
Awdurdodau Cyfreithiol: Pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu i amddiffyn ein hawliau.
4. Cwcis a Thechnolegau Olrhain
Mae ein Gwefan yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Ffeiliau bach sy’n cael eu storio ar eich dyfais yw cwcis, sy’n ein helpu i ddadansoddi defnydd a gwella ymarferoldeb. Gallwch reoli eich dewisiadau cwcis trwy osodiadau eich porwr.
5. Diogelwch Data
Mae gennym fesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu eich data personol rhag mynediad, datgelu, newid neu ddinistrio heb awdurdod.
6. Dolenni Trydydd Parti
Gall ein Gwefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd neu gynnwys y gwefannau allanol hyn.
7. Eich Hawliau
Mae gennych hawl:
- I gael mynediad at eich data personol, ei ddiweddaru neu ei ddileu.
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar rai gweithgareddau prosesu.
- I gyflwyno cwyn i awdurdod diogelu data.
I arfer eich hawliau, cysylltwch â ni trwy e-bostio admin@taiarycyd.cymru
8. Cadw Data
Rydym ni’n cadw data personol cyhyd ag y bo’r angen i gyflawni’r dibenion sydd wedi’u hamlinellu yn y polisi preifatrwydd hwn neu er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.
9. Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn
Efallai y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Bydd newidiadau yn cael eu postio ar y dudalen hon gyda’r dyddiad diweddaru.
10. Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni:
Tai ar y Cyd
Ebost: admin@taiarycyd.cymru
Gwefan: https://taiarycyd.cymru/