Mae’r prosiect Tai ar y Cyd yn gydweithrediad unigryw rhwng landlordiaid cymdeithasol, llywodraeth ac arbenigwyr o fyd diwydiant, sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau tai yng Nghymru. Rydyn ni’n byw trwy argyfwng tai a hinsawdd. Mae Tai ar y Cyd yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol i adeiladu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy – un cartref ar y tro.
Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd 23 o landlordiaid cymdeithasol sy’n rhannu’r weledigaeth o ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cartrefi hyn wedi’u dylunio i fodloni’r safonau uchaf o ran perfformiad carbon isel, dan arweiniad llyfr patrymau safonedig.
Trwy gofleidio technegau adeiladu arloesol a blaenoriaethu’r defnydd o bren o’r DU a Chymru, rydyn ni’n lleihau allyriadau ac yn helpu tenantiaid i arbed arian ar filiau ynni.
Wrth galon Tai ar y Cyd mae yna ymrwymiad i ansawdd, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Mae pob cam o’n proses ddylunio ac adeiladu wedi’i ymwreiddio yn y gred bod y cartrefi rydyn ni’n eu hadeiladu heddiw yn siapio cymunedau yfory. Trwy gryfhau cadwyni cyflenwi Cymru a chreu cyfleoedd sgiliau gwyrdd, rydyn ni nid yn unig yn cefnogi’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd ond hefyd yn creu newid parhaol i Gymru.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n paratoi’r ffordd ar gyfer tai sy’n perfformio’n dda, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ac sydd o fudd i bobl, i gymunedau ac i’r blaned.
Safoni cartrefi fforddiadwy cynaliadwy seiliedig ar bren i Gymru