Manylion y Prosiect

Mae prosiect Tai ar y Cyd yn gydweithrediad rhwng landlordiaid cymdeithasol, llywodraeth ac arbenigwyr o fyd diwydiant sy’n gweithredu i fynd i’r afael â heriau tai a hinsawdd yng Nghymru. Mae ein hamcanion yn cynnwys.

Carbon Isel

Dylunio cartrefi sy’n cofleidio gwneuthuriad yn gyntaf ac yn defnyddio ynni adnewyddadwy i gyflawni perfformiad carbon isel gweithredol.

Pren Cynaliadwy

Defnyddio pren i leihau allyriadau carbon ymgorfforedig, a lle bynnag y bo’n bosibl, datgloi cadwyni cyflenwi a phren lleol yn y DU a Chymru.

Tai Fforddiadwy

Chwarae ein rhan yn y gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy i gymunedau ledled Cymru.

Arloesi trwy Gydweithio

Gweithio mewn partneriaeth â diwydiant a landlordiaid cymdeithasol i ddatblygu’r atebion dylunio tai gorau sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.